Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Y gymhareb euraid mewn dylunio

Mae cwmni Aston Martin yn adeiladu ceir yn Sain Tathan ger Caerdydd. Dywed Aston Martin bod eu ceir yn gwbl gymesur gan ddefnyddio’r gymhareb euraid. Efallai mai dyna pam fod James Bond yn gyrru un! Mae’r cwmni wedi paratoi’r llun hwn o’r Aston Martin DB9 i ddangos sut y mae rhannau o gorff y car yn ffitio’r gymhareb. Er enghraifft, mae top bwa’r olwyn ôl yn disgyn ar yr adran euraid o’r llawr i dop y drws. Mae’r olwyn flaen wedi ei chanoli ar adran euraid y bonet.