Yn y llun arswydus hwn, peintiodd Alfred Janes y stori Feiblaidd am Salome a’i mam Herodias a’u cynllwyn i ladd Ioan Fedyddiwr. Fe’i peintiodd yn 1938, pan oedd yn 27 oed, yn ei gartref yn Abertawe. Creodd nifer o baentiadau yn ystod y cyfnod hwn oedd yn gytbwys ac yn llawn patrymau.
Yn ôl yr hanes, pan ddawnsiodd Salome o flaen y Brenin Herod dywedodd y byddai’n rhoi beth bynnag a fynnai iddi fel gwobr. Penderfynodd Salome a’i mam ofyn am ben Ioan Fedyddiwr oherwydd ei fod wedi dadlau gyda’i mam. Ni allai Herod dorri ei addewid, felly fe laddwyd Ioan a rhoddwyd ei ben i Salome ar blât. Bu’r stori hon yn bwnc i sawl artist. Mae hefyd wedi ei defnyddio mewn dramâu, operâu, dawnsiau bale a ffilmiau.