Celf a Dylunio

Geometreg

    Mae geometreg yn fath o fathemateg sy’n ymwneud â phethau sy’n wirioneddol bwysig i artistiaid a dylunwyr, er enghraifft siapiau, llinellau, cromliniau a gofod. Mae dealltwriaeth o geometreg ymysg artistiaid yn ymestyn yn ôl i’r henfyd.

    Yn aml, bydd artistiaid a dylunwyr yn defnyddio technegau geometreg i’w helpu i lunio’r siapiau y maent eu heisiau. Mae penseiri’n ei ddefnyddio i greu bwâu. Mae dylunwyr cynnyrch yn ei ddefnyddio i greu patrymau cymhleth. Mae llawer o arlunwyr â diddordeb mewn siapiau geometregol.