Celf a Dylunio

Patrymau

    Cyfres o bethau sy’n dilyn rheol yw patrwm. Mae patrymau ym mhobman. Mae artistiaid a dylunwyr yn defnyddio patrymau’n aml. Mae beirdd hefyd yn defnyddio patrymau pan fyddan nhw’n odli, a cherddorion pan fyddan nhw’n ailadrodd alaw. Mae camau dawns yn fath o batrwm. Yn aml, ceir hyd i batrymau ym myd natur hefyd, er enghraifft mewn siâp blodau. Mewn mathemateg gallwch gael patrymau mewn rhifau neu batrymau mewn siapiau.

    Mewn celf, bydd gwehyddu’n dilyn patrwm bob amser. Mae cymesuredd yn fath o batrwm hefyd. Mae cyfres Fibonacci yn batrwm arall.

    Gall chwilio am batrymau fod yn ddiddorol. Mae’n eich helpu i ddeall sut caiff pethau eu creu a pham eu bod yn edrych fel y maen nhw.