Celf a Dylunio

Sbiralau rhifyddol

Mae sbiralau ar feddrodau hynafol yn ymestyn yn ôl 5,000 o flynyddoedd. Mae Barclodiad y Gawres ar Ynys Môn yn feddrod hynafol sy’n dyddio o’r cyfnod Neolithig. Gwelir sbiralau ar y cerrig yng nghyntedd a siambrau’r feddrod. Fe’u cerfiwyd yn ofalus iawn, yn enwedig pan gofiwch chi nad oedd gan yr artist offer haearn. Nid oes neb heddiw yn gwybod beth oedd ystyr y sbiralau i bobl filoedd o flynyddoedd yn ôl. Efallai mai addurniadau syml oedden nhw, neu efallai eu bod yn cynrychioli bywyd neu dragwyddoldeb.

Optimized-Barclodiad-y-Gawres-ERKN5B.jpg
Sbiralau ar y cerrig, Barclodiad y Gawres, Ynys Môn

Mae Tim Pugh yn gweithio yn yr amgylchedd naturiol gyda cherrig, dail, brigau a phethau eraill y daw o hyd iddynt. Yn y gwaith isod fe drefnodd ddail oedd wedi cwympo yn yr hydref wrth droed coeden. Mae’r sbiral yn gylchol ac mae’n tyfu’r un pellter gyda phob cylchdroad, felly mae’n sbiral rifyddol. Allwch chi gyfrif sawl tro wnaeth e’? Sut wnaeth e’ newid y cynllun wrth iddo gyrraedd boncyff y goeden?

Optimized-01.jpg
Gwaith Tim Pugh

Tasg

Yn yr ystafell ddosbarth, byddwch angen papur, pwti glynu fel ‘Blu Tack’, cortyn a dwy bensel. Os allwch chi ddefnyddio traeth neu bwll tywod, gallech ddefnyddio dau frigyn a chortyn i wneud yr ymarfer isod.

  • Rydych am ddefnyddio pensel fel colofn i droi’r cortyn o’i hamgylch.
  • Glynwch eich dalen o bapur i’r bwrdd neu astell.
  • Clymwch ddarn o gortyn i fôn y bensel gyntaf, a defnyddiwch ychydig o’r tac i’w stopio rhag llithro.
  • Gosodwch y bensel hon yng nghanol eich papur fel colofn, gyda’i blaen am i fyny. Gosodwch y bensel yn ei lle gyda’r ‘Blu Tack’ yn dal ei gwaelod, a gofynnwch i rywun ddal blaen y bensel a’i chadw’n fertigol.
  • Clymwch ben arall y cortyn i flaen yr ail bensel ger ymyl eich papur.
  • Gan gadw’r cortyn yn dynn, symudwch yr ail bensel o amgylch y golofn fel ei bod yn dechrau tynnu llun sbiral.
  • Bob tro bydd y cortyn yn troi o amgylch y golofn, bydd eich llinell ar y papur yn dod yn nes at y canol. Pan gyrhaeddwch chi’r canol bydd gennych sbiral gyflawn.

Gallech roi tro arall arni gyda cholofn fwy trwchus (er enghraifft pin ffelt trwchus neu ddarn o hoelbren) i weld sut mae’r sbiral yn newid.

Sbiral / Spiral