Celf a Dylunio

Celf Op

Mae Celf Op yn fath o gelf haniaethol sydd wedi’i seilio ar batrymau geometrig. Mae’n aml yn cynnwys siapiau neu ffractalau yn cael eu hailadrodd sy’n creu rhith optegol o symudiad.

Mae Jeffrey Steele yn Arlunydd Op a aned yng Nghaerdydd ym 1931. Fe beintiodd ei lun Harlequinade gyda gofal anhygoel mewn olew ar gynfas ym 1963. Mae’r ffractalau yn gylchoedd du ar gefndir gwyn. Fe wnaeth eu hailadrodd nhw mewn rhesi a gosod mwy o resi ar eu pennau. Mae’r cylchoedd yn mynd yn llai tuag at y canol, gan greu’r argraff eich bod chi’n edrych i mewn i dwnnel. Mae’r rhesi yn troelli i roi synnwyr symudiad.

Op-Art-iawn.jpg
© Baroque experiment: Fred Madox, 1963.

Ers hynny mae pobl eraill wedi defnyddio cyfrifiaduron i awtomeiddio ailadrodd siapiau gydag effeithiau rhyfeddol. Gelwir hyn yn Gelf Ffractal.

Tasg

Byddwch chi angen rhaglen ddarlunio gyfrifiadurol neu bapur, glud a siswrn ar gyfer gludwaith.

  1. Gwnewch nifer o gopïau ailadrodd o siâp yr ydych chi’n ei hoffi.
  2. Gosodwch y siapiau i greu dyluniad, gan eu symud ychydig ar y tro, ar hyd llinell neu o fewn siâp mwy.
  3. Er mwyn amrywio’r patrwm, gallwch droelli’r siapiau neu eu gwneud yn fwy neu’n llai, neu newid y lliwiau.