Celf a Dylunio

Cydbwysedd

    Cyflwyniad

    Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo bod cydbwysedd gweledol yn hardd. Mae cydbwysedd yn syniad pwysig ym mhob math o gelf a dylunio, ac mewn mathemateg.

    Mae cydbwysedd yn amlwg pan mae delwedd yn gymesur. Ond gall grwpiau o wahanol wrthrychau fod yn gytbwys heb fod yn gwbl gymesur. Mae artistiaid a dylunwyr yn aml yn hoffi cael cydbwysedd gweledol ond heb wneud hynny’n rhy amlwg. Mewn cerflunwaith, gall cydbwysedd o ran pwysau fod yn bwysig hefyd.