Celf a Dylunio

Geometreg Seiri Coed

Gwaith saer i greu adeiladau oedd un o gelfyddydau pennaf Cymru yn yr Oesoedd Canol. Wyddon ni ddim beth oedd enwau’r seiri coed ond fe wyddom eu bod yn fedrus iawn. Roedd angen iddyn nhw ddeall geometreg er mwyn iddynt allu gosod y coed i greu waliau, lloriau a thoeau.

Fe wnaeth y saer coed a adeiladodd dŷ o’r enw Old Impton ym Mhowys yn 1542 addurno’r cyntedd i arddangos ei ddealltwriaeth o’i grefft. Mae’r darluniau hyn yn gofnod o’r hyn wnaeth ei gerfio. Fe wnaeth arddangos ei ddawn gyda geometreg trwy greu sêr a chromliniau oedd yn ffitio at ei gilydd yn berffaith. Fe wnaeth gynnwys ei offer gwaith coed. Ger y gwaelod fe welwch ei offer geometreg - cwmpawdau ar gyfer creu arcau a chylchoedd a sgwaryn ar gyfer creu onglau sgwâr.

Old-Impton-carpentry-tools-work.jpg