Celf a Dylunio

Tecstilau

Mae gan batrymau geometregol carthenni gwlân neu gwiltiau clytiau lawer yn gyffredin gyda mosaigau. Maent wedi eu seilio ar yr un syniad o greu delwedd o ardaloedd bychain o liw wedi eu gosod at ei gilydd heb ofod rhyngddyn nhw. Mewn clytwaith, caiff y darnau eu gwnïo ymyl wrth ymyl (gweler Pwnc 3, Enghraifft 1). Mewn gwehyddu, caiff y brethyn ei greu o edau sy’n croesi ei gilydd fel bod un yn y golwg ar y tro.

Mae traddodiad o wehyddu carthenni patrymog yng Nghymru. Mae dylunwyr cyfoes, fel Melin Tregwynt yn Sir Benfro, yn cynnal y traddodiad hwn. Mae eu gwefan yn cynnwys ffilmiau ar sut y byddant yn dylunio a gwehyddu (yn Saesneg).

Gold-Throw1-1000x742.jpg
© Melin Tregwynt
Esiampl o batrwm geometrig wedi’i wehyddu gan Felin Tregwynt a ddefnyddir ar gyfer clustogau a blancedi

Tasg

Byddwch angen: dalennau mawr o bapur o bedwar neu bump gwahanol liw, ffon glud neu dâp glynu.

Y dasg yw ceisio gwehyddu gyda stribedi o bapur lliw er mwyn dysgu sut y gellir creu patrwm. Gweithiwch mewn parau.

  1. Mesurwch linellau ar y dalennau o bapur lliw 1cm ar wahân o’r top i’r gwaelod a’u torri allan i greu pentwr o stribedi.
  2. Dewiswch ddau liw (er enghraifft coch a gwyrdd) a gludwch y stribedi ar draws stribed llorweddol ar un pen. Y rhain fydd y stribedi fertigol yn y broses wehyddu. Gallwch eu glynu ym mha bynnag drefn a fynnwch. (Er enghraifft, gallech eu gosod coch-gwyrdd-coch-gwrdd ar draws yr hoelbren neu gallech eu gosod coch-gwyrdd-gwyrdd-coch- coch-coch-gwyrdd-gwyrdd-coch.)
  3. Nawr, cymerwch un o’r stribedi lliw eraill a’i wehyddu rhwng y stribedi fertigol, o un ochr i’r llall, o flaen ac yna y tu ôl. Dechreuwch yn y top. Efallai y byddwch angen tâp glynu i ddal pob pen yn ei le.
  4. Daliwch i wehyddu, un rhes ar y tro, tan ichi gyrraedd y gwaelod.
  5. Gallwch amrywio’r patrwm (er enghraifft: y tu ôl i un ac o flaen un; neu y tu ôl i un ac o flaen dau).
  6. Gwyliwch sut mae’r patrwm yn dechrau ffurfio.
  7. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwthio’r stribedi i fyny’n glós at ei gilydd. Tapiwch y gwaelod i ddal popeth gyda’i gilydd a thocio unrhyw ddarnau hir sy’n sticio allan ar yr ochrau.
  8. Rydych wedi gwehyddu patrwm!
  9. Gallech roi tro ar gyfuno gwahanol liwiau a threfn i’r stribedi.

Mosaig

Ymweld

Gellir ymweld â: