Arferai artistiaid oedd yn creu printiau a phobl oedd yn argraffu llyfrau neu bapurau newydd greu hetiau sgwâr i’w hunain allan o ddalenni mawr o bapur. I gadw eu hunain yn gynnes, mae’n debyg, mewn gweithdai oer. Fe fyddai’n hawdd iddyn nhw greu het bapur newydd os bydden nhw’n cael inc ar y llall.
Byddai’r artist a’r dylunydd teipograffeg Eric Gill yn gwisgo het argraffydd yn aml. Fe dynnodd lun ohono’i hun yn gwisgo un yn ei hunanbortread. Byddai seiri coed yn gwisgo hetiau papur hefyd. Gallwch weld un yn y llun o’r ‘Walrus and the Carpenter’ gan John Tenniel ar gyfer Through the Looking Glass gan Lewis Carroll.

Gallwch greu eich het argraffydd eich hun. Neu os nad ydych eisiau het, gallech ei throi â’i phen i lawr i greu dysgl ffrwythau.
Tasg
Byddwch angen dalen fawr o bapur newydd neu bapur plaen. Bydd rhaid iddi fod tua 72 x 58 cm iddi ffitio ar eich pen. Os yw’ch darn o bapur yn llai o faint, gallwch roi cynnig ar y syniadau beth bynnag.
- Stopiwch a chwaraewch y fideo a dilyn y camau i greu eich het.
- Gallech arbrofi trwy baentio’r papur gyda llinellau neu batrymau eraill.
- Os oes gennych het sbâr, datodwch hi ac edrychwch ar y plygiadau. Fe welwch sgwariau a thrionglau ongl sgwâr. Mae llawer o’r trionglau wedi eu hollti’n ddau gan blygiad, i greu dau driongl cyfath.