Mae origami yn rhoi syniadau i benseiri ar gyfer adeiladau. Gall plygiadau mewn dalenni o ddur neu arwynebau toeau fod fel plygiadau mewn dalenni o bapur. Mae creu modelau o bapur yn ffordd hawdd i benseiri chwarae gyda phroblemau a phrofi sut fydd adeiladau’n edrych.
Dyma enghreifftiau diddorol o adeiladau sydd wedi eu hysbrydoli gan origami. Gallwch eu defnyddio i feddwl am geometreg a siapiau.
Mae’r Bont Origami yn croesi loc ym Masn y Rhath ym Mae Caerdydd. Fe’i dyluniwyd gan Studio Bednarski yn 2011.
Mae’r Art Tower ym Mito, Japan, yn dŵr 100-metr o daldra a ddyluniwyd gan Arata Isozaki yn 1990. Mae lifft gwydr yn teithio i fyny canol y tŵr at wylfan. Mae wedi ei greu o wynebau trionglog. Gellir creu tŵr tebyg i hwn o bapur.
Dyluniwyd terminws maes awyr Saint Petersburg gan y pensaer o Brydain, Nicholas Grimshaw, yn 2014.