Yng Nghymru, ceir llawer o hen dai sydd wedi eu codi o bren mewn ardaloedd ble nad oedd llawer o gerrig. Byddai’r bylchau rhwng y coed yn cael eu llenwi gyda phlastr neu frics. Roedd y pren tywyll a’r plastr gwyn yn creu effaith weledol gref. Fe wnaeth hyn i’r adeiladwyr feddwl am y patrymau a grëwyd gan y coed a sut i ychwanegu motiffau addurnol.
Adeiladwyd y tŷ hwn yn Aberriw, Powys, gan y ficer Thomas Kyffin yn 1616 - fe osododd y dyddiad a’i lythrennau cyntaf dros y portsh. Gallwch weld coed fertigol a llorweddol y ffrâm focs sy’n dal y tŷ i fyny, gyda phaneli oblong o faint cyfartal rhyngddynt. Roedd y coed ar oleddf yn y corneli’n cryfhau’r ffrâm. Uwchben y portsh defnyddiwyd sgwariau yn lle oblongau. Roedd pob sgwâr yn cynnwys siâp wedi ei greu o bedair llinell grom.
Yn ddiweddarach, fe wnaeth pobl ddynwared y traddodiad o addurniadau du a gwyn hyd yn oed pan nad oedd eu tai wedi eu creu o bren. Un enghraifft adnabyddus yw Plas Newydd yn Llangollen. Adeiladwyd y tŷ o garreg, ond glynodd y perchnogion bren i’w wyneb. Gallwch ddadansoddi’r rheolau ar gyfer y patrwm. Sawl rhes lorweddol welwch chi? Sawl llinell fertigol sydd ym mhob rhes? Pa fotiffau a ddefnyddir ac ymhle?
© Manfred Heyde - gwaith personol, CC BY-SA 3.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=2825903