Rydych yn adnabod llawer o siapiau eisoes. Mae yna siapiau dau ddimensiwn y gallwch dynnu eu llun ar bapur, er enghraifft cylch, hirgrwn, sgwâr, triongl neu hecsagon. Mae hefyd siapiau tri dimensiwn fel sffêr, silindr, côn, ciwb neu byramid.
Yn aml, bydd artistiaid a dylunwyr yn defnyddio siapiau geometregol cryf. Weithiau maent yn amlwg iawn yn y gwaith celf ac weithiau maent yn fwy cudd.