Paentiodd Rachel Windham gyfansoddiadau haniaethol hardd o siapiau geometregol. Roedd wrth ei bodd yn trefnu sgwariau, petryalau, trionglau a chylchoedd o wahanol liwiau wedi eu paentio’n llac. Pa siapiau allwch chi eu gweld yn y darlun hwn?

'Looking Through', Rachel Windham. Drwy Ganiatâd Amgueddfa Brycheiniog
Gall siapiau fod yn symbolau ar gyfer pethau yr ydym yn eu hadnabod. Roedd Rachel Windham yn paentio tirluniau hefyd. Ydych chi’n credu y gallai’r paentiad hwn fod yn fath o dirlun gyda siapiau fel symbolau? Ei enw yw Looking Through. Allen ni fod yn edrych trwy ffenestr sgwâr gyda haul sgwâr llachar yn codi yn y bore a lleuad gron anferth yn mynd i lawr? Mae’r llinellau melyn fel ymyl o heulwen yn cyffwrdd ym mhopeth.