Yn aml, disgrifir Paul Cézanne fel tad celfyddyd Fodern. Roedd yn un o’r artistiaid cyntaf i ddangos diddordeb mewn siapiau neu ffurfiau er eu mwyn eu hunain yn hytrach na’r testun yr oeddent yn eu cynrychioli. Roedd y rhan fwyaf o baentwyr y cyfnod yn paentio goleuni a chysgodion fel yr oeddent yn eu gweld. Roedd Cézanne yn gweld yr holl wrthrychau y byddai’n eu paentio fel siapiau tri dimensiwn ac roedd yn hoffi defnyddio trawiadau ei frwsh i’w gwneud nhw’n glir. Dywedodd, “Mae popeth mewn natur yn cymryd ei ffurf o’r sffêr, y côn a’r silindr.”

Edrychwch ar y paentiad hwn o fasgedaid o afalau a graffig y côn, y sffêr a’r silindr. Mae’r botel win yn siâp côn gyda silindr yn y rhan isaf a silindr culach yn y gwddf. Pan fyddwch chi’n bwyta afal, rydych yn gwybod bod pant ar ei dop ac ar ei waelod, ond mae Cézanne wedi gwneud i ran fwyaf o’i afalau edrych yn llawer mwy sfferig. Gallwch weld ei fod yn mwynhau’r siapiau eraill hefyd - y ddysgl a’r fasged gron a’r llyfrau oddi tanynt, y plygiadau yn y lliain a’r pentwr o roliau bara.
