Dyluniodd Eric Gill ffurfdeip Gill Sans pan oedd yn byw yng Nghapel-y-ffin ar Y Mynydd Du yn y 1920au. Mae Gill Sans yn glir ac yn hardd iawn. Mae’n dal i fod yn un o’r ffurfdeipiau mwyaf enwog yn y byd.
Mae angen i ddylunwyr benderfynu ar faint y llythrennau a’r gofod rhyngddynt. Byddant yn mesur y maint mewn ‘pwyntiau’. Mewn dylunio digidol, mae pwynt yn mesur 0.3527mm - rhif rhyfedd sy’n tarddu o fesuriadau argraffu traddodiadol mewn modfeddi.
Mae maint pwynt yn cynnwys y gofod sydd ei angen o amgylch y llythyren hefyd. Felly, dylai cyfanswm y gofod ar gyfer llythyren 10-pwynt fod yn 10 gwaith 0.3527mm, sy’n 3.527mm. Dylai’r gofod ar gyfer llythyren 30-pwynt fod yn 30 gwaith 0.3527mm, sy’n 10.581mm. Dylai llythyren 30-pwynt fod yn dair gwaith maint llythyren 10-pwynt. Mae rhai ffurfdeipiau yn amrywio o ran maint oherwydd eu bod wedi eu dylunio i fod â gwahanol ofod o’u hamgylch.
Dyma Gill Sans wedi ei ddyblu dair gwaith, o 8 pwynt i 16 pwynt i 32 pwynt i 64 pwynt. Os edrychwch chi ar y briflythyren H, fe welwch yn glir bod y gofodau yn ogystal â’r llythrennau’n mynd yn fwy.
Tasg
Byddwch angen rhaglen fel Word ar gyfrifiadur.
- Agorwch ddogfen newydd. Gwnewch yn siŵr bod y raddfa ar waelod ochr dde eich sgrin wedi ei gosod ar 100% er mwyn eich helpu i weld y teip tua’i faint go iawn.
- Torrwch a gludwch baragraff o destun neu teipiwch eich paragraff eich hun.
- Gwnewch dri chopi o’r un paragraff ar yr un dudalen, y naill o dan y llall.
- Dewiswch destun y paragraffau i gyd. Ar y ddewislen Hafan, dewiswch y ffurfdeip Palatino o’r gwymplen ‘ffont’.
- Dewiswch y paragraff cyntaf a dewis maint pwynt 12 o’r blwch wrth ymyl y blwch ffont.
- Dewiswch yr ail baragraff a dewis maint pwynt 18. Dylai hwn fod 1.5 gwaith maint pwynt y paragraff cyntaf. Sylwch fod mwy o linellau gan na allwch ffitio cymaint o eiriau ar linell mewn testun mwy o faint.
- Dewiswch y trydydd paragraff a dewis maint pwynt 24.
- Edrychwch ar y tri pharagraff. Os allwch chi eu hargraffu ar bapur fe ddylen nhw ymddangos yn union i raddfa. Pa un sydd rwyddaf i’w ddarllen a pha un sydd brafiaf i edrych arno?
- Defnyddiwch y cwymplenni unwaith eto i roi tro ar ffurfdeipiau a meintiau pwynt eraill.