Celf a Dylunio

Sut i dynnu llun petryal euraid

Os hoffech greu petryal euraid ar gyfer paentiad neu ddyluniad, dyma ffordd hawdd i’w wneud.

  1. Tynnwch lun sgwâr perffaith.
  2. Marciwch bwynt canol gwaelod y sgwâr.
  3. Mesurwch o’r pwynt canol i’r cornel uchaf.
  4. Ymestynnwch y llinell waelod allan yr un faint o’r pwynt canol, gan droi’r sgwâr yn betryal.
  5. Sylwch, bob tro y byddwch chi’n tynnu sgwâr allan o betryal euraid, bydd gennych betryal euraid llai o faint yn weddill.

Os ydych am wirio eich petryalau euraid, mesurwch yr ochr fyrraf a’i luosi gyda 1.618. Dylai’r canlyniad fod yn hafal i hyd yr ochr hiraf.

Os ydych am ddod o hyd i adran euraid mewn cyfansoddiad, dyma sut i’w wneud.

  1. Mesurwch hyd eich llinell.
  2. Rhannwch eich rhif gyda 1.618.
  3. Defnyddiwch yr ateb i fesur y pellter i’r adran euraid o ddiwedd y llinell.
  4. Mesurwch o’r pen arall i ddod o hyd i’r adran euraid ar yr ochr arall.

Petryal Euraid / Golden Rectangle