Mae bwâu yn strwythurau a grëir gan ddefnyddio cromliniau. Maent yn bwysig iawn ar gyfer peirianneg a phensaernïaeth, er enghraifft mewn pontydd, twneli, toeau, drysau a ffenestri. Maent yn gwasgaru’r pwysau i bob ochr.
Bwâu hanner crwn yw’r rhai symlaf. Fe’u defnyddiwyd yn aml mewn pensaernïaeth Normanaidd, er enghraifft yn nrws adnabyddus Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion. Gallwch weld bod y bwa yn hanner cylch.
Pan ddefnyddir llai na hanner y cylch, gelwir y bwa yn ‘segmentol’. Un enghraifft yw Pont Llanrwst ger Conwy. Gallwch weld bod y bwâu bron yn hanner cylch ond os edrychwch chi ar yr adlewyrchiad fe welwch ei fod wedi ei wasgu rhywfaint.
Mae pont raff yn creu siâp tebyg i fwa ond â’i ben i lawr. Gelwir bwa gaiff ei greu ar yr un siâp yn fwa catena. Mae’r print hwn yn dangos y siâp catena mewn pont raff i’r goleudy yng Nghaergybi.
Bwa catena arall yw'r gadwyn sy'n cynnal pont grog y Borth ar draws y Fenai, a ddyluniwyd gan Thomas Telford.
Fe ddyluniodd Herbert Luck North, y pensaer o Ogledd Cymru, linellau toeau gosgeiddig gan ddefnyddio segmentau o elipsau.
Dyluniodd Thomas Telford bontydd dros Gamlas Llangollen gyda bwâu eliptigol. Roedd angen i’r bont fod yn ddigon llydan ar gyfer y gamlas ond yn hawdd i gerbydau ei chroesi. Byddai bwa hanner cylch wedi bod yn rhy uchel neu’n rhy gul. Roedd bwa eliptigol lletach yn berffaith.
Ymweld
Gellir ymweld â:
- Edrychwch ar adeiladau a phontydd yn eich ardal chi a phenderfynu pa fath o fwâu sydd wedi eu defnyddio.