Celf a Dylunio

Cymesuredd

    Mae’r syniad o gymesuredd yn codi’n aml mewn celf a dylunio. Mae’n syniad pwysig mewn mathemateg hefyd. Mae pobl yn cael eu denu gan gymesuredd. Mae gan yr wyneb dynol un llinell cymesuredd, sef i lawr y canol gydag un llygad ac un glust bob ochr iddi.

    Mewn gweithiau celf, gall cymesuredd fod yn ddim ond rhan o’r dyluniad neu gall fod yn elfen bwysicaf y cynllun. Gall cymesuredd syml wneud i ddyluniadau deimlo’n llonydd ac yn ddisgybledig. Fodd bynnag, gall cymesuredd fod yn gymhleth iawn hefyd, gyda nifer o linellau adlewyrchiad, fel geometreg anhygoel celfyddyd Islamaidd.