Celf a Dylunio

Cyfrannedd

    Cyfrannedd

    Mae cyfrannedd yn ymwneud â maint pethau pan fyddwch yn eu cymharu. Mae cyfrannedd yn cael effaith sylweddol ym maes celf, mathemateg a bywyd bob dydd. Er enghraifft, pe baech chi’n bwyta bar 200g o siocled mae’n bosibl y byddech chi’n teimlo’n sâl oherwydd ei fod bedair gwaith maint bar 50g. Esiampl arall yw map ble mae 1cm yn gyfrannol â 1km yn y byd go iawn. Mae mesur yn eich helpu i ddeall cyfrannedd yn well.

    Un elfen o effaith gweithiau celf yw eu graddfa. Dyma un rheswm pam ei bod yn bwysig gweld gweithiau celf yn y cnawd, nid dim ond mewn ffotograffau. Mae’n bosibl y byddan nhw’n fwy nag ydych yn ei feddwl. Efallai eu bod yn wahanol iawn mewn maint i’r gwrthrych gwreiddiol. Yn ogystal, gellir defnyddio syniadau am gyfrannedd yn y cyfansoddiad i greu effeithiau cydnaws.