Celf a Dylunio

Troelliad Ffractal a Fibonacci

    Mae’r gyfres Fibonacci yn ddilyniant o rifau sydd wedi ysbrydoli nifer o artistiaid ac mae i’w weld ym myd natur.

    Mae pawb yn gyfarwydd â’r gyfres symlaf o rifau – 0, 1, 2, 3, 4, 5 ac yn y blaen. Mae’r gyfres Fibonacci yn neidio ymlaen i’r ddau rif blaenorol wedi’u hadio gyda’i gilydd. Sef: 0, 1, 1, 2, 3, 5, 8, 13, 21, 34, 55 …

    • 1+0 yn rhoi 1
    • 1+1 yn rhoi 2
    • 2+1 yn rhoi 3
    • 3+2 yn rhoi 5
    • 5+3 yn rhoi 8
    • 8+5 yn rhoi 13, ac yn y blaen.

    Gallwch ddefnyddio’r gyfres i ddarlunio sbiral. Os ydych chi’n gwneud sgwariau o faint bob rhif ac yn eu rhoi wrth ymyl ei gilydd, maen nhw’n creu sbiral yn debyg i gragen malwoden. Mae artistiaid a dylunwyr wedi defnyddio’r sbiral hwn mewn cyfansoddiadau.

    fibonacci.gif

    Pan fyddwch chi’n ailadrodd siâp mewn gwahanol feintiau fel hyn mae’n rhyw fath o ‘ffractal’. Mae ffractalau yn batrymau diddiwedd wedi’u gwneud gan yr un siâp yn cael ei ailadrodd wrth i’w faint, safle neu ongl newid.

    Mae enghreifftiau o’r gyfres o fewn natur yn cynnwys niferoedd y petalau mewn blodau, y sbiral mewn cragen malwoden a’r siapiau ar y tu allan i afal pîn.