Celf a Dylunio

Mesur a Chwyddo

    Bydd yn rhaid i chi allu mesur pethau o fewn pob math o gelf a dylunio. Mae’n bosibl y bydd artistiaid a dylunwyr angen gwybod mesuriadau megis:

    • pwysau clai i greu pot
    • uchder dyluniad mewn centimetrau neu fodfeddi
    • nifer y picseli mewn delwedd ddigidol

    Os yw artistiaid eisiau creu rhywbeth ar raddfa wahanol, mae angen iddynt ei chwyddo neu ei leihau. Mae’n bosibl y bydd yn aflunio os nad ydynt yn gwybod sut i wneud hynny’n gywir. Pan fyddwch chi’n newid maint rhywbeth gallwch ei ddweud mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r rhain i gyd yn ffyrdd o ddweud y byddwch chi’n dyblu’r maint:

    • x 2
    • 200 y cant
    • Graddfa 2:1

    Mae’r rhain i gyd yn ffyrdd o ddweud y byddwch chi’n haneru’r maint:

    • x 0.5
    • 50 y cant
    • Graddfa 1:2