Cyflwyniad
Anamorffosis yw pan mae delwedd yn cael ei hystumio ond yna’n cael ei gwneud i ymddangos yn normal unwaith eto. Bydd artistiaid yn defnyddio anamorffosis i chwarae triciau er mwyn synnu eu cynulleidfa. Efallai eu bod am guddio delwedd sydd angen bod yn gyfrinach neu am wneud i ddelwedd edrych yn berffaith o ddim ond un safbwynt penodol.
Yn aml, bydd anamorffosis yn defnyddio adlewyrchiad. Un enghraifft syml iawn yw drych-ysgrifennu. Os byddwch chi’n ysgrifennu rhywbeth y tu ôl ymlaen bydd yn anodd i bobl eraill ei ddarllen tan iddyn nhw ei ddal o flaen drych. Mae technegau mwy cymhleth yn defnyddio drychau crymion sy’n ystumio siapiau yn ogystal â’u gwrthdroi.
Syniad arall a welir mewn anamorffosis yw tafluniad. Mae dy gysgod dy hun yn enghraifft o hyn. Mae’n mynd yn hirach neu’n fyrrach yn dibynnu ar ba mor uchel yw’r haul ac ar beth gaiff dy gysgod ei daflu. Pan mae’r haul yn isel gyda’r nos, gall dy gysgod fod bron iawn yr un faint â thi os yw ar wal ond bydd yn llawer mwy os yw’n cael ei daflu ar lawr.