Mae llythrennu o’n hamgylch ym mhobman. Teipograffeg yw’r astudiaeth o lythrennu a’i drefniant. Yn wreiddiol, roedd teipograffeg yn ymwneud â’r teip metal ar gyfer argraffu llyfrau a phapurau newydd. Heddiw, mae’n cwmpasu ystod anferth o lythrennu y gallech ei weld bob dydd - credydau ffilmiau yn y sinema, e-lyfrau, posteri, blogiau, cylchgronau a’r pethau y byddwch chithau’n eu hysgrifennu ar gyfrifiadur.
Mae dylunwyr am wneud llythrennu’n glir, yn hawdd i’w ddarllen ac yn ddeniadol. Mae nifer fawr iawn o fathau o ffurfdeipiau, pob un â’i enw’i hun. Mae rhai newydd yn ymddangos o dro i dro, ond mae llawer o’r hen rai’n dal i fod yn boblogaidd, er enghraifft Arial, Gill Sans, Helvetica a Palatino.
Defnyddir geometreg i adeiladu ffurfiau llythrennau. Bydd dylunwyr yn meddwl yn ofalus am gymesuredd rhannau’r llythrennau. Mae graddfa’n bwysig wrth benderfynu sut i ddefnyddio llythrennu.