Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Gerddi

Mae llawer o ddylunwyr gerddi wedi bod â diddordeb mewn sut mae natur a chymesuredd yn gweithio gyda’i gilydd. Yng Ngerddi Bodnant ger Conwy mae cymesuredd caled yr adeilad yn cael ei feddalu gan lilïau’r dŵr ar y pwll a’r coed anwastad y tu ôl iddo. Fel llawer o erddi, mae Bodnant yn cynnwys ardaloedd sy’n gymesur sy’n creu cyferbyniad gydag ardaloedd eraill sy’n fwy gwyllt.

Gallwch weld llinell neu ‘echelin’ cymesuredd i lawr wyneb yr adeilad. Mae cymesuredd ar hyd echelin arall hefyd. Pe baech yn dychmygu ei weld o’r awyr, ar ffurf cynllun, mae’r llinell cymesuredd yn rhedeg i lawr canol y pwll a thrwy’r adeilad. Mae’r llun o’r pwll yn y nos yn ein hatgoffa bod gan y dylunydd ddiddordeb mewn cymesuredd arall hefyd - sef yr adlewyrchiad ar y dŵr.