Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Celf Op

Mae Celf Op yn fath o gelf haniaethol sydd wedi’i seilio ar batrymau geometrig. Mae’n aml yn cynnwys siapiau neu ffractalau yn cael eu hailadrodd sy’n creu rhith optegol o symudiad.

Mae Jeffrey Steele yn Arlunydd Op a aned yng Nghaerdydd ym 1931. Fe beintiodd ei lun Harlequinade gyda gofal anhygoel mewn olew ar gynfas ym 1963. Mae’r ffractalau yn gylchoedd du ar gefndir gwyn. Fe wnaeth eu hailadrodd nhw mewn rhesi a gosod mwy o resi ar eu pennau. Mae’r cylchoedd yn mynd yn llai tuag at y canol, gan greu’r argraff eich bod chi’n edrych i mewn i dwnnel. Mae’r rhesi yn troelli i roi synnwyr symudiad.