Sut allwch chi droi braslun bach yn beintiad mawr, neu beintio murlun maint tŷ? Mae arlunwyr wedi profi’r broblem hon ers canrifoedd. Eu hateb nhw oedd tynnu llun grid.
Gallwch chi weld darluniau gyda gridiau yn dyddio yn ôl i’r Dadeni. Dyma un gan Graham Sutherland yn y 1940au. Fe greodd frasluniau o goed drain yn Sir Benfro a chwyddo’r rhai yr oedd yn eu hoffi i greu peintiadau mawr. Gallwch weld sut yr aeth ati i ail-dynnu’r braslun yn gywir ond gan newid y lliw ac ychydig o’r manylion. Mae’r peintiad yn 127cm o uchder. Fe greodd fersiynau eraill hefyd.
Er mwyn chwyddo’r darlun bach, fe’i gorchuddiodd gyda llinellau llorweddol, fertigol a chroeslinol. Fe dynnodd yr un grid ar raddfa llawer mwy ar gyfer ei beintiad. Gallai gopïo’r peintiad un sgwâr ar y tro heb wneud unrhyw gamgymeriadau nac afluniad.