Tasg
Yn yr ystafell ddosbarth, byddwch angen papur, pwti glynu fel ‘Blu Tack’, cortyn a dwy bensel. Os allwch chi ddefnyddio traeth neu bwll tywod, gallech ddefnyddio dau frigyn a chortyn i wneud yr ymarfer isod.
- Rydych am ddefnyddio pensel fel colofn i droi’r cortyn o’i hamgylch.
- Glynwch eich dalen o bapur i’r bwrdd neu astell.
- Clymwch ddarn o gortyn i fôn y bensel gyntaf, a defnyddiwch ychydig o’r tac i’w stopio rhag llithro.
- Gosodwch y bensel hon yng nghanol eich papur fel colofn, gyda’i blaen am i fyny. Gosodwch y bensel yn ei lle gyda’r ‘Blu Tack’ yn dal ei gwaelod, a gofynnwch i rywun ddal blaen y bensel a’i chadw’n fertigol.
- Clymwch ben arall y cortyn i flaen yr ail bensel ger ymyl eich papur.
- Gan gadw’r cortyn yn dynn, symudwch yr ail bensel o amgylch y golofn fel ei bod yn dechrau tynnu llun sbiral.
- Bob tro bydd y cortyn yn troi o amgylch y golofn, bydd eich llinell ar y papur yn dod yn nes at y canol. Pan gyrhaeddwch chi’r canol bydd gennych sbiral gyflawn.
Gallech roi tro arall arni gyda cholofn fwy trwchus (er enghraifft pin ffelt trwchus neu ddarn o hoelbren) i weld sut mae’r sbiral yn newid.