Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Aflunio llythrennu

Fel arfer, byddwn yn darllen testun gan edrych yn syth arno. Os byddwch chi’n codi cylchgrawn neu’n darllen ar sgrin mae, mwy neu lai, ar ongl 90 gradd i’ch llinell edrych. Fodd bynnag, weithiau bydd dylunydd yn gwybod y bydd darllenwyr yn edrych o ongl arall. Bydd rhaid i’r llythrennu yma edrych yn gywir o’r safbwynt gydag anamorffosis [Pwnc 1].

Mae’r llythrennu ‘ARAF SLOW’ ‘BWS’ neu ‘STOP’ wedi eu hysgrifennu ar ffyrdd yn enghraifft o ddylunio anamorffig. Mae’r llythrennu’n dal iawn fel y gallwch eu darllen o ongl letraws o’n bell i lawr y ffordd mewn car. Os yw’r car yn symud yn gyflym, bydd angen i’r gyrrwr allu darllen y rhybudd o ymhellach i ffwrdd.