Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Seurat

Tasg

Gweithiwch mewn grwpiau bychain gyda chopïau o’r ddelwedd, ffon fesur, pennau ysgrifennu a chyfrifiannell, neu chwiliwch am ffordd i fesur y ddelwedd fel dosbarth cyfan.

  1. Mesurwch led y darlun.
  2. Rhannwch ei led gyda 1.618.
  3. Gwiriwch ei uchder i weld os mai dyma’r rhif y gwnaethoch ei weithio allan. Os yw’r ddau rif yr un fath, mae gennych betryal euraid. Os ddim, ceisiwch fesur yr uchder i waelod y rhes o oleuadau nwy. Yw’r adran yn betryal euraid?
  4. Defnyddiwch yr un rhif i fesur ar draws lled y darlun o bob pen a marciwch y ddwy adran euraid fertigol.
  5. A oes rhannau o’r cyfansoddiad yn ffitio gyda’ch llinellau?
  6. Mesurwch yr uchder a rhannwch y rhif hwnnw gyda 1.618.
  7. Defnyddiwch y rhif hwn i farcio'r ddwy adran euraid lorweddol.
  8. A oes nodweddion yn y darlun yn ffitio yn ei llinellau llorweddol?
  9. Dylai eich llinellau greu grid o sgwariau a phetryalau euraid llai. Ceisiwch fesur unwaith eto, i rannu’r petryalau gyda mwy o adrannau euraid ac i weld os oes mwy o wrthrychau a siapiau’n sefyll mewn llinell.