Mae un o’r enghreifftiau mwyaf adnabyddus o anamorffosis wedi ei chuddio mewn portread gan Hans Holbein. Enw’r llun yw TheAmbassadors a chafodd ei beintio yn 1533. Cafodd Holbein ei eni yn Yr Almaen ond ar ddiwedd ei oes bu’n byw yn Llundain ac yn gweithio i Frenin Harri’r VIII.
Mae’r peintiad yn dangos dau lysgennad Ffrengig ac mae’n llawn gwrthrychau sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, y celfyddydau a mathemateg. Peintiodd Holbein bopeth yn fanwl gywir ond mae siâp rhyfedd sy’n hofran dros y llawr yn ymddangos yn gwbl wahanol. Mae hwn yn fath o anamorffosis a elwir yn ‘drawsnewid croesrym’, sy’n golygu ei fod wedi ei osod ar oleddf wysg ei ochr. Allwch chi ond gweld beth ydyw yn iawn drwy edrych arno o’r ochr.