Edrychwch ar Composition en rouge, jaune, bleu et noir (Cyfansoddiad mewn coch, melyn, glas a du). Os mesurwch chi’r siapiau fe ddewch o hyd i gyfraneddau diddorol.
Mae’r sgwâr mawr coch yn hanner lled ac uchder sgwâr ffrâm y llun.
Mae’r sgwâr du yn hanner uchder a lled y sgwâr coch.
Mae’r hirsgwarau gwyn sydd agosaf i’r sgwâr du yn hanner ei uchder ac fel dau sgwâr wedi eu gosod at ei gilydd.
Mae gwaelod ac ymyl dde’r sgwâr coch ar gymhareb euraid y paentiad. Yn ogystal, mae canol y sgwâr coch ar y gymhareb euraid.