Mae’r mwyafrif o bortreadau’n cael eu paentio tua’r un faint â’r bobl y maent yn eu portreadu, neu’n llawer llai. Yn aml, byddai brenhinoedd a breninesau’n cael eu paentio’n fwy o faint er mwyn creu argraff.
Mae Shani Rhys James yn paentio hunanbortreadau ychydig yn fwy na realiti. Mae’n archwilio ei hun yn fanwl. Fydd hi ddim yn harddu ei hunanbortreadau ond yn aml bydd yn dangos ei hun yn gwisgo hen oferôls mewn stiwdio flêr.
Mae Studio; Self-Portrait (1993) yn ei dangos yn sefyll, felly mae’n baentiad mawr: 178cm o daldra. Mae ei ffigur yn llenwi uchder y cynfas, sydd tua 25cm yn dalach na’r artist mewn gwirionedd. Er mwyn edrych ar y paentiad yn ei wir faint mae’n bosibl y bydd angen ichi chwyddo’r manylion neu ei daflunio ar y wal. Dylai pen yr artist fod tua 28cm o uchder.
Gallwch weld enghreifftiau eraill o’i hunanbortreadau ar ArtUK. Mae llawer ohonynt yn darlunio dim ond ei phen, wedi ei chwyddo rywfaint. Fe welwch y maint wedi ei nodi o dan y lluniau wrth ichi glicio arnynt.
Tasg
Byddwch angen deunyddiau tynnu llun neu baentio a ffon fesur.
- Ewch ati, yn gyflym, i dynnu llun neu baentio tri phortread ar wahanol raddfa. Gallech weithio mewn parau i dynnu lluniau o’ch gilydd neu, fel gwaith cartref, gallech greu hunanbortread mewn drych.
- Defnyddiwch ffon fesur i fesur uchder a lled pen eich gwrthrych.
- Crëwch bortread sydd yn union yr un faint, fel bod 1cm ar eich papur yn cynrychioli 1cm o’r gwrthrych ei hun (1:1)
- Crëwch bortread arall sydd yn chwarter y maint, fel bod 1cm ar eich papur yn cynrychioli 4cm (1:4)
- Crëwch bortread arall sydd yn ddwbl y maint, fel bod 2cm ar eich papur yn cynrychioli 1cm (2:1)
- Trafodwch y portreadau. Pa un yw eich hoff un chi? A yw lefel y manylion yn wahanol? A yw’r naws neu’r effaith yn wahanol?
Ymweld
Gellir ymweld â:
- Mae’r paentiad hwn yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
- Mae gan nifer o amgueddfeydd ac orielau celf arddangosfeydd o bortreadau gan wahanol artistiaid