Celf a Dylunio

Dylunio Llwyfan

Mae John Macfarlane, sy’n byw ger y Fenni, yn un o ddylunwyr llwyfannau mwyaf blaenllaw'r byd. Mae’n dylunio’r holl setiau sy’n angenrheidiol i adrodd stori mewn ballet ac opera. Mae’r setiau yn cael eu hadeiladu gan dimau o bobl ac maen nhw’n ddrud iawn. Rhaid iddynt fod yn barod ar amser a ffitio’r llwyfan yn berffaith. Rhaid i’r dylunydd wneud yn siŵr fod popeth yn gywir.

Mae'n creu darluniau yn gyntaf. Mae’n derbyn mesuriadau o uchder a lled a dyfnder y llwyfan. Yna mae’n creu modelau ar raddfa gywir mewn blwch sydd union yr un cyfraneddau â’r llwyfan. Mae’n creu darluniau o bobl ar yr un raddfa i sicrhau y bydd y setiau yn edrych yn gywir. Yn y ffotograff mae’n sefyll wrth ymyl ei fodel ar gyfer Tosca yn y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd.

john-Macfarlane.jpg

Mae’r fideo yn dangos ei fodelau ar gyfer ballet o Frankenstein yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain.