Mae sbiral Fibonacci i’w gweld mewn cyfansoddiadau gan beintwyr. Peintiwyd yr enghraifft enwocaf 500 o flynyddoedd yn ôl gan Leonardo da Vinci: y Mona Lisa. Roedd Leonardo yn gwybod llawer am fathemateg ac roedd ganddo ddiddordeb i weld a allai ei helpu i ganfod y cyfrannedd perffaith. Mae’n bosibl ei fod yn gywir, gan mai’r Mona Lisa yw’r darlun enwocaf yn y byd heddiw.
Mae blaen ei thrwyn yng nghanol y sbiral. Mae’r sbiral yn ffitio gwaelod ei gên, top ei phen, ei hysgwydd a’i dwylo.