Celf a Dylunio

Rhagfyrhau

Rhagfyrhau

The Writing’s on the Wall
The Writing’s on the Wall

Mae’r band roc o America ‘OK Go’ yn creu fideos cerddoriaeth sy’n chwarae gemau gweledol. Mae eu fideo ar gyfer The Writing’s on the Wall yn defnyddio technegau anamorffig. Gwyliwch y fideo ar YouTube i weld pa rai y gallwch chi eu gweld: 

Ceir enghraifft o ragfyrhau 3 munud 28 eiliad i mewn i’r fideo. Mae’n edrych fel bod y band yn sefyll mewn llinell, ond mewn gwirionedd ’dyw tri ohonyn nhw ddim yno. Yn hytrach, mae lluniau anferth ohonyn nhw wedi eu gosod ar y llawr ac i fyny’r wal. Ar wefan y band ceir cynllun rhyngweithiol o’r stiwdio sy’n arwain at ffilmiau y tu ôl i’r llenni. Mae Rhif 18 yn dangos sut yr oedd y tafluniadau ar gyfer y llun hwn nifer o weithiau’n fwy na’r bobl go iawn.