Yn 2007, comisiynwyd Felice Varini, yr artist o’r Swistir, i greu gwaith newydd ar Forglawdd Bae Caerdydd o’r enw Three Ellipses for Three Locks. Roedd am greu rhith o gylchoedd melyn. Fe beintiodd ar y llawr ac ar y waliau a hyd yn oed ar reiliau ac offer. Roedd y paent yn gorchuddio arwynebedd eang mewn rhai mannau a llinellau cul mewn mannau eraill.

Mae’r fideo yn dangos sut mae’n edrych wrth ichi gerdded o gwmpas. Bydd nifer o ymwelwyr yn sylwi ar lawer o baent melyn ond yn methu dyfalu beth ydyw. Bydd y dirgelwch ond yn cael ei ddatgelu os ewch chi i wylfan arbennig, ble mae croes yn nodi’r man penodol.
Gellir gweld mwy o waith Felice Varini ar ei wefan (yn Ffrangeg).
Felice Varini, Morglawdd Bae Caerdydd
Tasg
Byddwch angen: taflunydd digidol cludadwy, darn mawr o gerdyn, a detholiad o siapiau a delweddau sy’n barod i’w dangos gyda’r taflunydd.
Ceisiwch daflunio delweddau ar wahanol arwynebau. Tafluniwch siapiau syml fel cylchoedd a sgwariau ac yna rhowch gynnig gyda lluniau o bobl (aelodau o’r dosbarth efallai).
- Edrychwch ar yr effaith ar gerdyn fflat. Sut mae’r siâp yn newid wrth ichi osod y cerdyn ar oledd?
- Tafluniwch dros gadeiriau, byrddau a waliau yn eich ystafell ddosbarth i weld sut caiff y ddelwedd ei chwalu. Ble yw’r man gorau i sefyll er mwyn gwneud i’r ddelwedd edrych yn berffaith?
- Oes gwahaniaeth os byddwch chi’n plygu i lawr neu’n sefyll i fyny’n syth?
- Ble’r ydych chi’n credu ei fod yn edrych fwyaf od?
Tasg estynedig
Yn ychwanegol, byddwch angen: sialc a chadach gwlyb i lanhau ar eich ôl.
Defnyddiwch sialc i dynnu llun ar wrthrychau gyda’r taflunydd fel canllaw er mwyn creu eich Felice Varini (dros dro) eich hun. Ond cofiwch lanhau wedyn rhag ichi gael sialc ar ddillad pawb!
Ymweliad
Gellir ymweld â'r gwaith ym Morglawdd Bae Caerdydd.