Herodraeth, sef dylunio symbolau i gynrychioli pobl neu sefydliadau, yw un o’r ffurfiau hynaf ar gelf a dylunio. Fel arfer bydd arfbeisiau a bathodynnau yn cyfuno symbolau ar gyfer teuluoedd a lleoedd.
Mae cydbwysedd a chymesuredd wedi bod yn bwysig mewn herodraeth erioed. Mae gan y mwyafrif o enghreifftiau linell cymesuredd o’r top i’r gwaelod. Fel arfer mae ganddynt darian yn y canol ac arflun yn y canol uwch ei ben. Mae gan y mwyafrif wrthrychau bob ochr ac arwyddair hefyd.
Mae Bathodyn Brenhinol Cymru yn enghraifft gyfoes o herodraeth. Fe’i dyluniwyd yn 2008 gan Syr Peter Gwynne-Jones. Dyma fathodyn swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n edrych yn gytbwys oherwydd ei fod bron yn gymesur o ochr i ochr. Chwiliwch am yr enghreifftiau hyn:
- Mae’r goron Frenhinol ar y top yn gymesur.
- Mae’r dorch gron o blanhigion yn gymesur. Mae’r rhain yn cynrychioli pedair gwlad y Deyrnas Unedig: y cennin am Gymru (ddwywaith bob ochr), yr ysgallen am Yr Alban, y feillionen am Ogledd Iwerddon a’r Rhosyn am Loegr.
- Mae’r rhuban gwyrdd bron â bod yn gymesur ar wahân i’r arwyddair. ‘Pleidiol Wyf i’m Gwlad’.
- Mae’r darian yn siâp cymesur.
- Nid yw’r delweddau ar y darian yn adlewyrchiad union gan fod y llewod i gyd yn wynebu i’r un cyfeiriad ac mae’r lliwiau’n newid o goch ar felyn i felyn ar goch. Defnyddiwyd y darian yma 800 mlynedd yn ôl gan dywysogion Gwynedd, sef llywodraethwyr cyntaf Cymru gyfan.
Tasg
Byddwch angen: papur a deunyddiau arlunio.
Gweithiwch yn unigol i ddylunio eich bathodyn eich hun. Dylech gynnwys tarian ac arflun sy’n berthnasol i’ch teulu, torch sy’n cyfeirio at leoedd sy’n bwysig ichi, ac arwyddair yr ydych yn credu ynddo. Cofiwch ei wneud yn gymesur o ochr i ochr.