Celf a Dylunio

Peintio Haniaethol

Yn aml, mae gan artistiaid haniaethol ddiddordeb arbennig mewn cydbwysedd cyfansoddiadol. Un o’r artistiaid haniaethol cyfoes mwyaf diddorol yw Carol Robertson, a astudiodd yng Ngholeg Celf Caerdydd. Mae wedi ei chyfareddu gan ffurfiau geometregol. Mae ei phaentiadau’n cynnwys cylchoedd, arcau, sgwariau, trionglau neu siapiau sêr. Mae’n ystyried bod siapiau’n ffordd dda o ddechrau gwaith newydd gan y gall ddechrau heb feddwl am yr holl syniadau posibl eraill. Mae gan siapiau wahanol ystyron iddi hi, er enghraifft mae’r cylch yn gwneud iddi feddwl am y bydysawd a chyfanrwydd ac amser yn parhau am byth.

Mae’r mwyafrif o’i phaentiadau’n cynnwys llawer o gymesuredd sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n gytbwys, fel rhai o’r cwiltiau clytwaith traddodiadol. Bydd yn defnyddio cynfas sgwâr bron bob tro. Bydd yn peintio ei siapiau geometregol yn fanwl gywir, ond bydd yn eu gosod ar gefndir wedi ei staenio i greu effaith meddalach.

Allwch chi adnabod y llinellau cymesuredd yn ei phaentiadau?

Cewch hyd i ragor o’i gwaith ar ArtUK.