Celf a Dylunio

Clytwaith

Mae Cymru’n enwog am ei chwiltiau clytwaith. Caiff y rhain eu gwnïo at ei gilydd o ddarnau bychain o ffabrig mewn siapiau sydd ag ymylon syth fel sgwariau, petryalau, trionglau a hecsagonau. Maent wedi eu creu ers cannoedd o flynyddoedd ac maent yn dal i gael eu gwnïo hyd heddiw.

Welsh-Quilt.jpg
© Amgueddfa Ceredigion Museum
Esiampl o gwilt gyda dyluniad geometregol sydd wedi’i gydbwyso o amgylch y canol, o Amgueddfa Ceredigion

Mae gan lawer o gwiltiau o Gymru ddyluniadau geometregol sy’n cydbwyso o amgylch y canol. Mae gan yr enghraifft hon o Amgueddfa Ceredigion linellau cymesuredd trwy’r canol - o’r top i’r gwaelod, o ochr i ochr ac o gornel i gornel. Pe baech chi’n dal drych ar y llinellau hynny fe fyddai’n edrych yn union yr un fath. Mae cymesuredd cylchdro i’w weld yn y cwilt hwn hefyd sy’n golygu, pa baech yn ei droi 90 gradd, byddai’n dal i edrych yr un fath.

Gallwch weld nifer o enghreifftiau o gwiltiau ar-lein yn Amgueddfa Cymru. Ceisiwch weld ble mae’r llinellau cymesuredd yn rhai ohonynt. 

Ymweld

Gellir ymweld â: