Mae’r Ystafell Arabaidd yng Nghastell Caerdydd yn deyrnged i batrymau Islamaidd gan y pensaer Fictoraidd, William Burges. Roedd penseiri Islamaidd hynafol wrth eu bodd gyda phatrwm ac fe ddatblygon nhw geometreg a chymesuredd cymhleth. Fe fydden nhw’n ailadrodd, yn cylchdroi ac yn adlewyrchu siapiau fel nad oedd un siâp yn gorbwyso’r gweddill ac roedd y patrwm yn ymddangos fel ei fod yn parhau am byth, fel y nefoedd. Yr enghreifftiau mwyaf gwych yw palasau’r Alhambra yn Sbaen, a adeiladwyd yn y 14eg a’r 15fed ganrif. Adeiladodd William Burges yr Ystafell Arabaidd yng Nghastell Caerdydd tua 1880.