Tasg
Byddwch angen bwrdd gwyn neu sgriniau eraill.
- Edrychwch yn ofalus ar y llun ac ar yr agoslun o’r nenfwd.
- Sawl aderyn sydd yn y canol?
- Sawl pigyn sydd i’r seren yn y canol?
- Sawl llinell cymesuredd sydd yn y seren ganol?
- A yw’r llinellau cymesuredd yn ymestyn allan yn bellach na’r seren?
- A yw’r adar yn cydweddu’n union gyda’r cymesuredd?
- Sawl cromen gron sydd yna?
- Sawl gwaith mae’r patrwm yn y cromenni yn cael ei ailadrodd?
- Sawl llinell cymesuredd allwch chi eu gweld ar draws y cromenni?
- Pa batrymau ailadroddol allwch chi eu gweld?