Os ydych chi’n cynllunio ar gyfer cylchgronau neu lyfrau rydych chi’n defnyddio delweddau digidol. Rydych chi angen delweddau â’r cydraniad cywir. Mae delweddau digidol yn cynnwys miliynau o ddotiau lliw a mesurir cydraniad yn nifer y dotiau fesul modfedd (dpi). Pan fyddan nhw’n cael eu hargraffu, rhaid i’r delweddau gael o leiaf 300 dot ar gyfer pob modfedd ar y dudalen. Gallant edrych yn aneglur os nad yw’r cydraniad yn ddigon uchel.
Dyma lun o’r ardd ym Mhlas Brondanw ger Porthmadog. Mae’r copi cyntaf yn 3,264 picsel o led wrth 1,840 picsel o uchder. Mae’r ail gopi yn 698 wrth 393 picsel. Pan fyddwch chi’n edrych yn agos gallwch weld bod y manylion yn aneglur neu wedi’u ‘picseleiddio’ (pixelated). Er enghraifft, mae’r rheiliau yn edrych yn rhyfedd.
Os byddech chi eisiau argraffu’r llun hwn mewn cylchgrawn byddech chi angen o leiaf 300 dot ar gyfer pob modfedd o’r maint yn y cylchgrawn. Gallai 3,264 picsel gael eu hargraffu i hyd at 3,264 wedi’i rannu gan 300 = 10.88 modfedd o led. Gyda 698 picsel dim ond hyd at 698 wedi’i rannu gan 300 = 2.33 modfedd o led y gellid eu hargraffu.
Pe bai gennych y ddelwedd 698 dpi ond eisiau ei thocio a dangos yr adeilad yn unig, beth fyddai’n digwydd? Byddai’r llun wedi’i docio yn tua 300 picsel o led, felly dim ond 1 modfedd o led y byddai modd ei argraffu.