Tasg
Byddwch chi angen rhai cylchgronau a chyfrifiadur gyda delweddau wedi’u cadw i edrych arnynt.
Edrychwch ar rai delweddau ar eich cyfrifiadur i benderfynu sut y gallech chi eu defnyddio mewn cylchgrawn.
- Yn eich ffolder, edrychwch ar wybodaeth ffeil pob llun.
- Nodwch y dimensiynau, a fydd yn dweud rhywbeth yn debyg i ‘3264 x 1840’ neu ‘698 x 393’.
- Er mwyn cyfrifo pa mor fawr y gallech chi eu hargraffu, rhannwch y dimensiynau gyda 300.
- Edrychwch ar gylchgrawn a dychmygwch sut y byddech chi’n defnyddio un o’ch lluniau ynddi.
- Mesurwch y lled yr hoffech chi i’r ddelwedd ymddangos mewn modfeddi a’i luosi gyda 300 i gael y dimensiynau yr ydych chi eu hangen.
- A oes digon o gydraniad gan y ddelwedd yr ydych chi wedi’i dewis?
- Dychmygwch eich bod chi eisiau tocio’ch delwedd. Os ydych chi eisiau defnyddio hanner lled y ddelwedd, dim ond hanner y dotiau fydd gennych chi. A yw’ch delwedd dal yn ddigon mawr?