Mae creu carthenni yn un o ddiwydiannau traddodiadol enwog Cymru. Mae gan garthenni Cymreig batrymau cryfion. Y symlaf yw’r rhes. Nesaf mae plad, ble mae’r rhesi’n croesi ei gilydd i greu sgwariau ac oblongau. Mae Cymru’n fwyaf adnabyddus am garthenni ‘tapestri’. Mae’r rhain mor gymhleth fel eu bod yn edrych fel eu bod wedi eu pwytho â llaw yn hytrach na’u gwehyddu ar wŷdd. Maent wedi eu creu o batrymau geometrig gaiff eu hailadrodd a cheir llawer iawn o wahanol gynlluniau. Mae’r traddodiad yn dyddio’n ôl gannoedd o flynyddoedd.
Mae patrwm Caernarfon neu’r ‘porthcwlis’ yn cynnwys motiffau sy’n edrych braidd yn debyg i ddorau porthcwlis mewn castell. O ran y patrwm sydd ar hyd yr ymyl, gallwch ei ddychmygu fel grid gyda rhesi a cholofnau wedi eu gwahanu gan linellau trwchus du gyda dotiau coch.
Allwch chi weld sut mae’r patrwm yn ailadrodd? Mae pedwar gwahanol fotiff, 1, 2, 3, 4. Mae’r grid yn 11 colofn o led. Mae gan bob rhes 6 o un motiff a 5 o un arall, sy’n cael eu defnyddio bob yn ail 1, 2, 1, 2. Yna, ar y llinell nesaf ceir dau fotiff gwahanol, sy’n cael eu defnyddio bob yn ail 3, 4, 3, 4. Felly os ddarllenwch chi i lawr y colofnau, maen nhw yn y drefn 1, 3, 1, 3 ac yna 2, 4, 2, 4. Sut mae’r siapiau coch yn cael eu hailadrodd? Mae’n ymddangos eu bod nhw’n perthyn gydag un o’r pedwar sgwâr. Pa un?
Edrychwch pa mor wahanol mae’r patrwm yn ymddangos ar gefn y garthen – nawr, mae’r llinellau trwchus yn goch a’r dotiau’n ddu! Ond gallwch weld bod yr ailadrodd yr un fath.