Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Hetiau Argraffwyr

Tasg

Byddwch angen dalen fawr o bapur newydd neu bapur plaen. Bydd rhaid iddi fod tua 72 x 58 cm iddi ffitio ar eich pen. Os yw’ch darn o bapur yn llai o faint, gallwch roi cynnig ar y syniadau beth bynnag.

  • Stopiwch a chwaraewch y fideo a dilyn y camau i greu eich het.
  • Gallech arbrofi trwy baentio’r papur gyda llinellau neu batrymau eraill.
  • Os oes gennych het sbâr, datodwch hi ac edrychwch ar y plygiadau. Fe welwch sgwariau a thrionglau ongl sgwâr. Mae llawer o’r trionglau wedi eu hollti’n ddau gan blygiad, i greu dau driongl cyfath.