Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Siapiau cudd

Allwch chi ddangos inni ble mae’r trionglau yn y paentiad hwn?

Mae trionglau ym mhobman ond fe allaf ddangos rhai ohonynt ichi yn y diagram hwn. Mae dau driongl hafalochrog, wedi eu nodi â llinellau gwyn solet - un yn pwyntio i fyny at y clogwyn yn y pellter ac un yn pwyntio am i lawr o flaen adenydd yr angel. Mae trionglau llai o faint wedi eu creu ble mae’r lleill yn gorgyffwrdd. Mae’r triongl a nodir gan linellau gwyn toredig yn cynnwys ffigur Mair. Mae triongl yn cynnwys blaenau adenydd yr angel a gwaelod ei siaced. Mae’r triongl melyn yn uno tŵr y castell gyda phen-glin yr angel ac esgid Mair.