Pam ydych chi’n defnyddio trionglau?
Rwy’n hoff o strwythur geometregol. Mae’r llinellau’n helpu eich llygad i symud o amgylch y paentiad heb lithro oddi ar yr ymyl.
Allwch chi roi enghraifft o hyn yn y paentiad hwn?
Mae’r ddau driongl hafalochrog yn golygu bod canol y llun yn teimlo’n dawel. Mae’r un sy’n pwyntio ar i fyny’n golygu bod perthynas rhwng y ffigurau er bod Mair yn edrych i ffwrdd. Mae ochrau hirion y trionglau eraill i gyd yn pwyntio at y gornel dde uchaf, fel pe bai’r stori am barhau yn y ddrysfa a’r castell.
Pam eu bod nhw’n gudd?
Pe bae’n nhw’n amlwg fe fydden nhw’n tynnu eich sylw. Rydw i am ichi synhwyro effaith y strwythur ond nid dim ond gweld trionglau.