Celf a Dylunio

Cyflwyniad

Ffurfdeipiau a maint pwynt

Tasg

Byddwch angen rhaglen fel Word ar gyfrifiadur.

  1. Agorwch ddogfen newydd. Gwnewch yn siŵr bod y raddfa ar waelod ochr dde eich sgrin wedi ei gosod ar 100% er mwyn eich helpu i weld y teip tua’i faint go iawn.
  2. Torrwch a gludwch baragraff o destun neu teipiwch eich paragraff eich hun.
  3. Gwnewch dri chopi o’r un paragraff ar yr un dudalen, y naill o dan y llall.
  4. Dewiswch destun y paragraffau i gyd. Ar y ddewislen Hafan, dewiswch y ffurfdeip Palatino o’r gwymplen ‘ffont’.
  5. Dewiswch y paragraff cyntaf a dewis maint pwynt 12 o’r blwch wrth ymyl y blwch ffont.
  6. Dewiswch yr ail baragraff a dewis maint pwynt 18. Dylai hwn fod 1.5 gwaith maint pwynt y paragraff cyntaf. Sylwch fod mwy o linellau gan na allwch ffitio cymaint o eiriau ar linell mewn testun mwy o faint.
  7. Dewiswch y trydydd paragraff a dewis maint pwynt 24.
  8. Edrychwch ar y tri pharagraff. Os allwch chi eu hargraffu ar bapur fe ddylen nhw ymddangos yn union i raddfa. Pa un sydd rwyddaf i’w ddarllen a pha un sydd brafiaf i edrych arno?
  9. Defnyddiwch y cwymplenni unwaith eto i roi tro ar ffurfdeipiau a meintiau pwynt eraill.