Os hoffech greu petryal euraid ar gyfer paentiad neu ddyluniad, dyma ffordd hawdd i’w wneud.
- Tynnwch lun sgwâr perffaith.
- Marciwch bwynt canol gwaelod y sgwâr.
- Mesurwch o’r pwynt canol i’r cornel uchaf.
- Ymestynnwch y llinell waelod allan yr un faint o’r pwynt canol, gan droi’r sgwâr yn betryal.
- Sylwch, bob tro y byddwch chi’n tynnu sgwâr allan o betryal euraid, bydd gennych betryal euraid llai o faint yn weddill.
Os ydych am wirio eich petryalau euraid, mesurwch yr ochr fyrraf a’i luosi gyda 1.618. Dylai’r canlyniad fod yn hafal i hyd yr ochr hiraf.